Mae cyn-Aelodau Cynulliad wedi derbyn dros £800,000 ar ôl gadael eu swyddi yn dilyn yr etholiadau y llynedd, datgelwyd heddiw.

Derbyniodd yr ACau a roddodd y gorau i’w swydd neu a fethodd ag ail-ennill eu seddi gyfanswm o £845,179.

Mae’r ‘arian ailgyfanheddu’ yn cael ei roi i unrhyw ACau sy’n gadael eu seddi. Death y manylion i’r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan bapur newydd y Western Mail.

Gadawodd 22 o ACau yn dilyn yr etholiadau y llynedd, gan gynnwys y Ceidwadwyr Alun Cairns, a dderbyniodd bron i £30,000 er ei fod yn parhau â’i waith yn AS yn San Steffan.

Cyn-arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Nick Bourne, dderbyniodd y mwyaf o arian, sef £51,415.

Mae mudiad y Taxpayers’ Alliance wedi beirniadu rhoi cymaint o arian i’r Aelodau Cynulliad wrth iddyn nhw adael y Senedd.

“Fe ddylai ACau wybod eu bod nhw’n cymryd gwaith sy’n dod i ben ar gyfnod penodol – os ydyn nhw’n colli eu seddi, mae’r cytundeb yn dod i ben, dydyn nhw ddim yn cael eu diswyddo,” meddai Emma Boon o’r mudiad wrth bapur newydd y Western Mail.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad, sy’n cyfrifo faint o arian y dylai’r ACau ei dderbyn, ei fod yn dibynnu ar eu hoed a faint o amser yr oedden nhw wedi gweithio yno.