Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Cleg, wedi ymosod ar y Blaid Lafur gan ddweud eu bod nhw wedi gwneud cam â’r bobol yng Nghymru.

Wrth ymweld ag Abertawe dywedodd fod y Blaid Lafur wedi “gwastraffu” blynyddoedd o rym yn y wlad.

Mae Cyngor Abertawe yn nwylo clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a chynghorwyr annibynnol. Bydd y Blaid Lafur yn ceisio ennill grym yno yn yr etholiadau lleol ar 3 Mai.

Dywedodd Nick Clegg nad oedd Llafur wedi gallu sicrhau bod economi Cymru wedi tyfu’n ddigonol yn ystod y dyddiau da cyn argyfwng ariannol 2008.

“Mae Llafur wedi bod yn gwneud cam â phobol Cymru ers cenedlaethau ac maen nhw bellach yn dweud anwireddau ynglŷn â llanast yr ydym ni ynddo gan wadu unrhyw gyfrifoldeb,” meddai.

“Maen nhw wedi gwastraffu blynyddoedd drwy beidio â sicrhau twf economaidd hirdymor yng Nghymru.

“Rydw i’n credu y dylai’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn falch iawn o’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn Abertawe.”