Mae wyth gorsaf radio gymunedol yng Nghymru wedi derbyn £100,000 mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gorsafoedd yn rhai bach, dielw a dywed Gweinidog Treftadaeth Cymru eu bod nhw’n  chwarae rôl bwysig yn gymunedol ac yn “cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol yr ardaloedd”.

“Mae’r gorsafoedd yn trafod y materion sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yn eu cymunedau,” meddai Huw Lewis.

“Maen nhw hefyd yn creu cyfleoedd i bobl feithrin sgiliau newydd, a chael gwaith mewn rhai achosion.

“Mae llawer yn gwneud gwaith da o ran hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, y Gymraeg a menter gymdeithasol,” ychwanegodd.

Dywedodd un o staff Calon FM yn Wrecsam, sef yr orsaf a dderbyniodd y grant mwyaf, eu bod nhw “wrth eu boddau”. Mae’r orsaf yn darlledu ers 2008 ac yn darlledu 24 awr y dydd.

Mae gan Calon ddwy raglen ddwyieithog ac maen nhw’n chwilio am fwy o gyflwynwyr Cymraeg, medd yr aelod o staff.

Dyma’r wyth gorsaf radio a gafodd grantiau:

  • GTFM ym Mhontypridd yn derbyn £16,000
  • BRFM ym Mlaenau Gwent yn derbyn £16,500
  • Tudno FM yn Llandudno yn derbyn £13,400
  • Point FM yn y Rhyl yn derbyn £10,000
  • Calon FM yn Wrecsam yn derbyn £18,000
  • Radio Cardiff yn derbyn £5,500
  • Tircoed yn derbyn £5,500
  • Bro Radio ym Mro Morgannwg yn derbyn £15,000.