Carwyn Jones a'r gweinidog Kapil Sibal
Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr Llywodraeth India ar ail ddiwrnod ei daith fasnach i’r wlad.
Wrth hyrwyddo Cymru i fyd busnes y wlad, bu Carwyn Jones yn annerch Conffederasiwn Diwydiant India yn y brifddinas New Delhi.
Wrth annerch arweinwyr busnes dywedodd Carwyn Jones: “Mae nifer o gwmniau o India eisoes wedi eu sefydlu yng Nghymru sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r wlad ac rwy’n awyddus i weld nifer y cwmniau’n cynyddu.”
Dywedodd hefyd y byddai’n hoffi gweld cysylltiadau masnach rhwng y ddwy wlad yn cryfhau.
Fe fydd dirprwyaeth y Prif Weiniodog yn ymweld â Mumbai yn ystod y dyddiau nesaf lle bydd yn cwrdd â chynrychiolwyr gwaith dur Tata, sy’n un o gyflogwyr mwyaf Cymru.