Mae trigolion Cymru wedi ailgylchu 49% o’u gwastraff rhwng mis Hydref a Rhagfyr, medd adroddiad gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ffigwr yn gynnydd o 6% ar yr un cyfnod yn 2010.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gwastraff cyffredinol y cartref yn gostwng. Rhwng Hydref a Rhagfyr cynhyrchodd bob person yng Nghymru 54 cilogram o wastraff, sef 5 cilogram y person yn llai nag y cafodd ei gynhyrchu rhwng Hydref a Rhagfyr 2010.

‘Targedau heriol’

Croesawodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, John Griffiths, yr ystadegau.

“Y peth allweddol nawr yw ein bod ni’n parhau i ailgylchu mwy fel y gallwn ni fodloni’r targedau heriol sydd gennym ni i ailgylchu 70% erbyn 2025 a pheidio â chynhyrchu unrhyw wastraff erbyn 2050,” meddai.

Ychwanegodd: “Nid yn unig y mae ailgylchu’n arbed gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, ac yn lleihau faint o garbon sy’n cael ei ollwng, mae hefyd yn arbed ynni ac yn sicrhau ein bod yn ailddefnyddio adnoddau gwerthfawr a fyddai fel arall yn pydru o dan y ddaear.”