Mae cyn-Brif Weinidog Seland Newydd wedi canmol y Cynulliad Cenedlaethol am y rôl flaenllaw sydd gan fenywod wrth arwain yng Nghymru.

Wrth gyflwyno araith ym Mae Caerdydd neithiwr, dywedodd Helen Clark ei bod hi’n falch gweld bod cynrychiolaeth menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru wedi dal ei dir ers datganoli.

“Mae’n arwydd da nad yw’r canran o Aelodau Cynulliad sy’n fenywod wedi disgyn o dan 40% erioed, ac yn wir wedi cyrraedd 51% ar un adeg,” meddai.

“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi annog y tueddiadau hyn trwy fabwysiadau polisiau sy’n hwylus i deuluoedd wrth amseru cyfarfodydd pwyllgorau a sesiynau llawn, ac felly’n trosglwyddo egwyddorion cydraddoldeb rhyw i bolisiau sy’n helpu gwireddu hynny.”

Dywedodd fod gan wledydd eraill “llawer iawn i’w ddysgu gan ddemocratiaeth cynhwysol a dynamig Cymru.”

Roedd y cyn-Brif Weinidog, a gafodd ei henwebu fel yr 20fed dynes mwyaf dylanwadol yn y byd yn 2006 gan gylchgrawn Forbes, yn traddodi ei darlith ar ‘Gynnwys a Chydraddoldeb: Pam fod arweiniad menywod yn bwysig’ yn adeilad y Pierhead neithiwr, fel rhan o’u cyfres o ddarlithoedd gan ffigyrau cyhoeddus.

Wrth goresawu Helen Clark i Gaerdydd, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, ei bod hi’n falch o’r cyfle i drafod “cydbwysedd rhyw mewn gwleidyddiaeth, gan fod cynyddu cyfraniad ymhlith menywod yn un o fy amcanion strategol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd hon.”