Wylfa: ‘Pryder mawr’ bod y cwmni gododd Chernobyl â diddordeb

 


Rali Wylfa B ym mis Ionawr eleni
Mae un o’r prif grwpiau ymgyrchu yn erbyn codi gorsaf niwclear arall ar Ynys Môn wedi dweud heddiw eu bod nhw’n bryderus iawn fod cwmni o Rwsia nawr yn dangos diddordeb yn y safle.

Mae’r cwmni, Rosatom, yn gwmni gwladwriaethol sy’n cael ei reoli gan y Kremlin yn Rwsia, ac maen nhw bellach wedi dangos diddordeb mewn ymestyn eu gwaith i Brydain.

Un o’r safleoedd dan ystyriaeth gan y cwmni, yn ôl ffynonellau yn Rwsia, yw safle Wylfa ar Ynys Môn, a safle Oldebury yn Swydd Gaerloyw – y ddau safle lle’r oedd cwmnïau Almaenig RWE npower ac EON i fod i adeiladu gorsafoedd newydd, cyn iddyn nhw dynnu’n ôl bythefnos yn ôl.

‘Gwyliadwrus iawn’

Ond mae Dylan Morgan, o grŵp ymgyrchu PAWB, yn dweud y dylai pobol fod yn wyliadwrus iawn cyn croesawu cwmni oedd yn gysylltiedig â thrychineb niwclear Chernobyl i adeiladu ar Ynys Môn.

“Rhagflaenydd y cwmni yn yr Undeb Sofietaidd oedd yn gyfrifol am Chernobyl, yn gyfrifol am pam y’n ni dal nawr yn cofio’r enw Chernobyl, am y rhesymau gwaetha’,” meddai Dylan Morgan.

Ddoe, dywedodd Cyngor Ynys Môn eu bod nhw’n croesawu’r newyddion fod cwmnïau yn dangos diddordeb yn y safle, a’u bod yn dal yn grediniol fod yr Wylfa yn “parhau i gynrychioli’r safle gorau ym Mhrydain ar gyfer pwerdy niwclear newydd.”

‘Ffwlbri’

Ond mae Dylan Morgan yn dweud mai ffwlbri llwyr yw galw Ynys Môn yn safle da ar gyfer gorsaf niwclear.

“Does dim o’r fath beth yn bod â safle da, ond mae safle Wylfa yn hynod anffodus. Mae’n safle peryglus iawn ar yr ynys.

“Petai ddamwain ddifrifol yn digwydd, sut bydda 70,000 o bobol yn gadael yr ynys dros ddwy bont?” meddai.

Mae Dylan Morgan hefyd yn dweud bod cwestiynau mawr i’w gofyn ynglŷn â diogelwch cynlluniau’r cwmni o Rwsia, wedi i un arbenigwr niwclear gwestiynu gallu’r cwmni i gydymffurfio â rheolau llymach Prydain.

“Mae cwestiynau i’w gofyn ynglŷn â gallu’r cwmni i ateb gofynion technegol sylfaenol o ran diogelwch,” meddai Dylan Morgan.

‘Ymgyrch yn parhau’

Mae’r ymgyrchydd yn dweud y bydd gwaith PAWB yn parhau yn wyneb y posibilrwydd bod cwmni niwclear newydd yn dangos diddordeb yn safle Wylfa, a’u bod nawr yn bwriadu cydweithio’n agosach gydag ymgyrchwyr safle niwclear Hinkley, sy’n agos at y ffin â de Cymru.

“Dydyn ni ddim yn mynd i orffwys ar ein rhwyfau,” meddai. “Fyddwn ni’n dal i ymgyrchu yn egnïol yn erbyn y cwmniau hyn a’u cynlluniau.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019