Mae grŵp pwyso  ar fin cael ei lansio er mwyn rhoi llais unedig i wrthwynebwyr melinau gwynt.

Ar ddydd Iau, 19 Ebrill bydd y National Opposition to Windfarms (NOW) yn cynnal lobi y tu allan i San Steffan, a bydd gweithgareddau lleol yn cael eu cynnal ar draws Prydain er mwyn lansio’r mudiad.

“Mae angen llais cryf, cenedlaethol neu fel arall bydd ein llef ni’n cael ei golli,” medd Caroline Evans, sy’n ymgyrchu yn erbyn tyrbinau gwynt yn ardal Brechfa, Sir Gaerfyrddin.

“Bydd NOW yn tynnu ynghyd y grwpiau amrywiol ar draws y wlad, ac eisoes mae’r mudiad wedi cael cefnogaeth amryw o Aelodau Seneddol a’r Arglwydd Alex Carlisle”.

‘Llais unedig’

Mae Golwg360 yn deall bod rhai o arweinwyr y grŵp pwyso newydd yn dod o Bowys ac wedi bod yn flaenllaw yno yn erbyn datblygiadau ffermydd gwynt.

Er bod Caroline Evans yn dweud bod angen llais unedig, dywedodd bod sefyllfa Cymru yn wahanol.

“Mae ardaloedd yng Nghymru wedi eu dynodi gan y Cynulliad ar gyfer datblygiadau ynni gwynt, sef yr ardaloedd TAN 8, ac mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr.

“Os ydych chi’n byw y tu fas i’r ardaloedd TAN 8 yna mae gyda chi ryw fath o amddifyniad yn erbyn datblygiad fferm wynt yn eich ardal chi, ond os ydych chi’n byw y tu fewn i ardal TAN 8 yna mae’n gwneud pethau’n anodd iawn”.