Llys y Goron Abertawe
Mae pensiynwr a fu’n gwerthu meddyginiaethau a thriniaethau amgen i fenywod yng ngorllewin Cymru fel esgus i’w cam-drin wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd heddiw.

Roedd Reginald Gill, 77, wedi twyllo dau glaf i gredu fod ganddyn nhw ganser, a defnyddio prôb trydanol arnyn nhw.

Dywedodd y barnwr heddiw fod Reginald Gill, sydd mewn cadair olwyn, wedi ceisio help ei wraig, sydd 42 mlynedd yn iau nag ef, i dwyllo’r ddwy ddynes.

Cafodd ei wraig, Leila Gill, ei charcharu am chwe mis heddiw, wrth i’r cwpwl gael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Dywedodd y Barnwr Keith Thomas wrth Reginald Gill heddiw fod ei weithgareddau wedi “bradychu ffydd” ei gleifion ynddo.

Dywedodd hefyd fod ei wraig, Leila Gill, wedi cael ei manipiwleiddio gan y pensiynwr, ac na fyddai hi wedi troseddu oni bai am ddylanwad ei gŵr.

‘Cymryd mantais’

Roedd y ddau yn rhedeg busnes bach yn gwerthu cynnyrch a thriniaethau homeopathig ym mhentref bach Cwmduad, ger Caerfyrddin.

Dywedodd y barnwr heddiw fod y ddau wedi llwyddo i ddenu cleifion oedd wedi colli ffydd yn y gwasanaeth iechyd, gan godi £120 y tro am bob sesiwn ffug o driniaeth.

Cafwyd Reginald Gill yn euog o naw trosedd rhyw a dau gyhuddiad o dwyll yn Llys y Goron Abertawe ar ddechrau Chwefror. Cafwyd ei wraig yn euog o un drosedd rhyw, ac un o dwyll.

Crewyd yr honiadau ffug o ganser yn ei gleifion gan Reginald Gill er mwyn iddo gael cynnal ymchwiliadau corfforol ymwthiol iawn ar ei gleifion noeth.

Roedd y pensiynwr hefyd yn honni ei fod wedi bod yn ddoctor yn y fyddin, er iddi ddod i’r amlwg yn ddiweddarach ei fod wedi bod yn gweithio yn yr adran arlwyo.

Y ‘triniaethau’

Roedd Reginald Gill yn cynnal yr hyn yr oedd yn ei ddisgrifio fel “sgan” corfforol ar ei gleifion, trwy ddefnyddio’i ddwylo.

Honnodd hefyd ei fod wedi gwella’r ddau glaf yn sgil ei driniaethau, er iddi ddod i’r amlwg wedyn nad oedd yr un o’r ddwy erioed wedi cael canser.

Roedd y pensiynwr yn defnyddio peiriant IFAS, sy’n cael ei ystyried yn beryglus ac heb ei brofi gan y proffesiwn meddygol, i roi prôb trydanol tu fewn ei gleifion.

Roedd yn honni bod y prôb yn lladd y canser trwy ollwng tonnau trydanol ac osôn i mewn i’w cyrff.

Aeth y gŵr 77 oed yn ei flaen i werthu’r triniaethau hyn i bobol oedd yn troi ato am help am £2,200 y tro.

Hanes o droseddu

Wedi ei gael yn euog ym mis Chwefror, daeth hi i’r amlwg fod Reginald Gill eisoes wedi ei gael yn euog o ymosodiad anweddus yn ôl yn 1975.

Roedd hefyd wedi cael ei garcharu yn ôl yn 2004 am berswadio claf oedd yn dioddef o ganser go iawn i wrthod triniaeth gonfensiynol.

Wrth gyhoeddi’r ddedfryd, dywedodd y barnwr  fod Reginald Gill wedi “cam-drin a bychanu” ei gleifion er ei foddhad ei hun.

Dywedodd y barnwr ei fod wedi targedu menywod gwan oed yn “troi ato am help gyda phroblemau iechyd ar ôl iddyn nhw golli ffydd yn y gwasanaeth iechyd.”

Aeth ymlaen i ddweud bod Reginald Gill wedi cam-ddiagnosio ei gleifion yn fwriadol, a’u gadael mewn trawma gan yr hyn a ddywedodd.