Bydd gwrthdystiad yn cael ei chynnal yn y Bontfaen ddydd Gwener i wrthwynebu cynlluniau Cyngor Bro Morgannwg i werthu ac ail-ddatblygu canolfan y farchnad anifeiliaid sy’n mynd ers bron i 200 mlynedd.

Heddiw, cyhoeddodd undeb amaethwyr NFU Cymru y bydden nhw’n ymuno â’r brotest ddydd Gwener i wrthwynebu cau’r farchnad anifeiliaid.

Bydd y gwrthdystiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref am 3pm ddydd Gwener yma, cyn gorymdeithio tuag at safle’r farchnad anifeiliaid ei hun.

Mae’r undeb wedi bod yn galw ar ffermwyr lleol i ymuno â’r gwrthdystiad, ar droed neu yn eu cerbydau, er mwyn i bobol “glywed eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau i werthu’r farchnad.”

‘Undeb yn gandryll’

Yn ôl ysgrifennydd lleol NFU Cymru yn y Bontfaen, David Harris, mae aelodau’r undeb “yn gandryll ynglŷn â’r cynnig i werthu marchnad gwartheg y Bontfaen.

“Mae’r farchnad wedi bod yma ers tua 200 mlynedd, ac os yw’r farchnad yn cael mynd, bydd yn rhaid i ffermwyr ac anifeiliaid wneud taith gron o 90 milltir i’r farchnad agosaf yn y Fenni.

“Unwaith bydd hi wedi mynd, bydd hi wedi mynd am byth,” rhybuddiodd Dave Harris.