Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio am gymryd rhan honedig mewn ymdrech i adael 5,300 o hen deiars yn anghyfreithlon ar safle ger Casnewydd.

Cafodd y dyn o ardal Casnewydd ei arestio gan Heddlu Gwent ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd, yn sgil ymchwiliad gan swyddogion yr Asiantaeth.

Mae’r dyn bellach wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn galw ar unrhyw un sy’n sylwi ar wastraff yn cael ei adael ar safleoedd yn anghyfreithlon i gysylltu â nhw ar unwaith.

Mae delio â’r broblem yn costio rhwng £100 miliwn a £150 miliwn i drethdalwyr ar draws Prydain bob blwyddyn wrth glirio’r gwastraff sydd wedi ei ollwng yng anghyfreithlon.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn rhybuddio bod gollwng y gwastraff a’r sbwriel hyn yn niweidio’r amgylchedd lleol, yn bygwth afonydd, yn effeithio ar ardaloedd hamdden – ac yn gallu effeithio ar bris tai yn yr ardal.