Leanne Wood
Mae Plaid Cymru’n lansio’i maniffesto ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol heddiw, gan addo i ymgyrchu dros wasanaethau lleol.

Dywed Plaid Cymru mai hi yw “plaid leol Cymru” a’i bod am  “ailadeiladu’r economi, cefnogi teuluoedd a gwella gwasanaethau lleol”.

Yn ôl rheolwr ymgyrch Plaid Cymru, Alun Ffred Jones AC mae angen i gynghorau “dynnu eu pwysau” a defnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw dros feysydd gwaith, busnes, addysg, gofal a’r amgylchedd.

“Mae’n fater o weld y tu hwnt i fethiannau’r pleidiau Llundeinig a chredu mewn atebion Cymreig i faterion Cymreig,” ychwanegodd.

561 o ymgeiswyr

Bydd gan Blaid Cymru 561 o ymgeiswyr yn yr etholiadau ar Fai’r 3, sy’n record ar gyfer y blaid.

Ar hyn o bryd mae’r blaid yn arwain cynghorau Caerffili a Gwynedd. Mae’r lansiad yn cael ei gynnal yn Rhydaman, sy’n sir allweddol i’r blaid.

Hi yw’r blaid fwyaf ar y cyngor yno ond mae’r grŵp annibynnol a’r Blaid Lafur wedi clymbleidio er mwyn rhannu grym ar Gyngor Sir Gâr.

Ymysg ymrwymiadau maniffesto Plaid Cymru mae:

• Darparu cynlluniau prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc.

• Helpu busnesau lleol ennill cytundebau cyhoeddus

• Ymgyrchu i achub gwasanaethau lleol hanfodol

• Trwsio tai gwag

• Galluogi cymunedau lleol i elwa o’i hadnoddau naturiol.

‘Ymladd dros ein cymunedau’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards: “Os fu yna amser erioed pan oedd ar Gymru angen i’w phlaid leol fod yn gryf er mwyn ymladd dros ein cymunedau, dyma hi.

“Yng Ngwynedd rydym yn falch ein bod wedi buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau – mewn ardaloedd trefol a gwledig rydym wedi dangos uchelgais er gwaetha’r cyfyngu ar ein cyllidebau.”