Llun: Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio nad oes digon o ddŵr gan Gymru i helpu ardaloedd sych yn Lloegr, wrth i ffrae ddatblygu dros reolaeth dŵr yng Nghymru.

Prynhawn yma mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi mynegi pryder fod lefelau dŵr rhai o afonydd Cymru yn “isel iawn” ac nad oes modd cymryd mwy o ddŵr allan o’r afonydd “heb niweidio’r amgylchedd”.

Mae cwmni dŵr Severn Trent wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n bwriadu gwerthu dros 30 miliwn o litrau yn ddyddiol i rannau sychaf Lloegr. Cwmni Severn Trent sy’n berchen ar gronfeydd Efyrnwy a Chlywedog yng nghanolbarth Cymru, ond gwadodd Severn Trent fod bwriad ganddyn nhw i werthu dŵr o Gymru i dde-ddwyrain Lloegr.

“Bydd y dŵr byddwn ni’n gwerthu yn dod o dyllau turio yn ardal Birmingham ac yn cael ei bwmpio i’r afon Tame ac yna i’r Trent. Bydd yn cyrraedd Gainsborough ble bydd Anglian Water yn medru ei ddefnyddio,” meddai llefarydd Severn Trent wrth Golwg 360.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, wedi dweud bod cwmni Severn Trent mewn sefyllfa i werthu dŵr i Loegr oherwydd  bod ganddyn nhw gyflenwadau dŵr yng Nghymru.

Dywedodd ei bod hi’n “eironig” bod cwmni preifat yn gallu elwa trwy werthu dŵr o Gymru tra bod pobl Cymru ddim yn gallu elwa o’r dŵr.

“Ein dŵr ni yw hwn a dylwn ni allu gwneud y mwyaf ohono,” meddai Alun Ffred Jones.