Mae Plaid Cymru yn dweud bod hi’n eironig bod cwmni preifat yn gallu elwa trwy werthu dŵr Cymru tra bod pobl Cymru ddim yn gallu elwa o’r dŵr.

Mae cwmni dŵr Severn Trent wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n bwriadu gwerthu dros 30 miliwn o litrau yn ddyddiol i rannau mwyaf sychedig Lloegr. Cwmni Severn Trent sy’n berchen ar gronfeydd Efyrnwy a Chlywedog yng nghanolbarth Cymru, a daw hanner dŵr y cwmni o Gymru.

Dywed llefarydd economi Plaid Cymru fod y cytundeb yn dangos bod angen i benderfyniadau dros ddŵr gael eu datganoli i Gymru.

“Ein dŵr ni yw hwn a dylwn ni allu gwneud y mwyaf ohono,” meddai Alun Ffred Jones AC.

“Mae’n adnodd economaidd a strategol pwysig iawn. Mae angen harneisio adnoddau naturiol Cymru er budd pobl Cymru a Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod hyn yn digwydd.

“Mae Llafur wedi gwrthod y galwadau hyn ac yn 2006 mynnon nhw fod angen cymal yn Neddf Llywodraeth Cymru oedd yn cadw rheolaeth dros adnoddau dŵr yn San Steffan. Mae hyn i bob pwrpas wedi clymu’n dwylo tu ol i’n cefnau”.

Mewn rhaglen arbennig o Taro Naw ar S4C heno, fe fydd cyn-Gadeirydd a Phrif Weithredwr Dŵr Cymru, John Elfed Jones, yn galw am roi ystyriaeth i drosglwyddo dŵr o Gymru i Loegr, gyda’r elw yn dychwelyd i Gymru.