Katherine Jenkins
Cadarnhaodd y gantores Katherine Jenkins a’i chariad Gethin Jones heddiw eu bod nhw wedi dyweddïo.

Cyhoeddodd Katherine Jenkins, 30, y neges ar ei gwefan bore ma.

“Rydw i a Geth wedi dyweddïo!” meddai.

“Fe ofynnodd y cwestiwn ar ddiwedd gwyliau hyfryd ar arfordir Mecsico ac fe gytunais i, wrth gwrs.

“Fe fydd y briodas ryw ben y flwyddyn nesaf.”

Mae’r pâr dyweddïedig wedi bod gyda’i gilydd ers cyfarfod ar raglen Strictly Come Dancing yn 2007. Mae disgwyl i’r gantores a’r cyflwynydd 32 oed briodi yng Nghymru.

Symudodd y ddau i dŷ £4.7 miliwn yn Richmond, Gorllewin Llundain yn yr haf.