Mae cyn-Gadeirydd a Phrif Weithredwr Dŵr Cymru yn dweud dylai dŵr Cymru gael ei drin fel olew, a’i werthu i Loegr fel adnodd naturiol.

Yn ôl John Elfed Jones, mae angen trin cyflenwad dŵr Cymru fel cyfle masnachol, ac achub ar y cyfle nawr.

Daw’r galwadau wrth i gwmni dŵr Severn Trent gyhoeddi heddiw eu bod nhw’n bwriadu gwerthu peth o’u cyflenwad nhw, dros 30 miliwn o litrau yn ddyddiol, i rannau mwyaf sychedig Lloegr.

Mae’r cwmni’n dweud bod trafodaethau wedi bod ar waith ers tro ynglŷn â “masnachu dŵr”, ond mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael cyfle i’w treialu o ddifrif.

Gallai’r cynlluniau hyn, gyda’r posibilrwydd o ddarparu dŵr ar gyfer 100,000 o gartrefi yn nwyrain Lloegr, fod ar waith mor gynnar â mis Mehefin eleni.

Trosglwyddo dŵr i Loegr

Mewn rhaglen arbennig o Taro Naw ar S4C heno, fe fydd cyn-Gadeirydd a Phrif Weithredwr Dŵr Cymru yn galw am roi ystyriaeth o ddifri i’r posibilrwydd o drosglwyddo dŵr o Gymru i Loegr – gyda’r elw yn dychwelyd i Gymru.

Ac mae John Elfed Jones yn dweud y dylid datblygu’r prosesau i drosglwyddo dŵr i Loegr mor gynted â phosib.

“Yn yr hanner can mlynedd nesa fydd y trigolion bryd hynny yn troi rownd a gofyn ‘pam yn yr enw’r tad ddaru nhw ddim gwario’r arian bryd hynny i wneud yr holl drefniant? Dwi’n meddwl bod hi’n hen bryd i ni ystyried gwneud hynny,” meddai.

“Diffyg egni a diffyg gweledigaeth yn aml iawn sy’n peri i ni fod mewn helyntion yn rhy aml.

“Beth yw tegwch yn hyn o beth? Be sy’n deg nad yw Cymru’n elwa dim ceiniog o’r dŵr mae hi’n allforio i Loegr? Dyw hynny ddim yn deg, o gwbl.”

‘Ddim yn ymarferol’ medd Dŵr Cymru

Ond er gwaetha’r sychder diweddar yn ne ddwyrain Lloegr, mae Dŵr Cymru yn dweud y byddai’n anymarferol iddyn nhw drosglwyddo dŵr o Gymru i’r mannau sychaf ar draws y ffin.

“Ar hyn o bryd dyw e ddim yn bosibl symud dŵr o Gymru i’r de ddwyrain, gan bod yr adnoddau ddim ar gael i wneud hynny; a fydde fe’n rhy gostus ac wrth gwrs ddim yn ymarferol o ran yr amgylchedd,” meddai llefarydd ar ran y cwmni wrth Taro Naw.

Ond mae  arbenigwr ar drosglwyddo dŵr, y peiriannydd sifil John Lawson, yn dweud mai ehangu un o gronfeydd Cwm Elan yng nghanolbarth Cymru yw’r opsiwn gorau i ddelio gyda phroblem sychder.

“O’r astudiaethau rydw i wedi eu gwneud yn y gorffennol mae’r astudiaethau hynny yn arwain nol i gynyddu cronfa ddŵr Craig Goch os ydych chi eisiau adnodd sylweddol ar gyfer de Lloegr,” meddai.

“Nes y bydd tystiolaeth ar gael i ddangos nad yw hyn yn bosib, efallai ar sail amgylcheddol, yna dwi’n meddwl mai dyma’r ffordd orau.”