Y Wenynog Wengoch
Mae elusen Plantlife wedi cyhoeddi ymgyrch yn Sir Benfro, Sir Fynwy a Sir Drefaldwyn er mwyn achub dau o flodau gwyllt prinnaf Cymru.

Mae’r wenynog wengoch a’r clychlys ymledol yn ei chael hi’n anodd goroesi yn goedwigoedd Cymru ac mae’r elusen wedi penderfynu fod angen gwneud rhagor i’w diogelu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen y gallai’r clychlys ymledol ddiflannu o fewn pum mlynedd, a bod y planhigyn wedi bod yn tyfu mewn cyn lleied â phum safle ledled Cymru yn ddiweddar.

“Mae’r wenynog wengoch a’r clychlys ymledol dan fygythiad ac mae eu poblogaethau hwnt ac yma yn fach iawn,” meddai Trevor Dines o Plantlife.

“Maen nhw fel arfer yn dod i’r golwg ar gyrion hen goedwigoedd hynafol sydd wedi eu hesgeuluso, neu hen gloddiau.

“Fel arfer mae llysiau a phlanhigion coedwigol eraill yn gordyfu yn yr un lle ac yn eu bygwth nhw.

“Mae angen annog cynnal a chadw coedwigoedd a chloddiau er mwyn darparu digon o olau i’r blodau yma ffynnu.”

Bydd Plantlife yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal y gwaith.