Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw bellach yn ymchwilio i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth merch feichiog 19 oed mewn tân yng Nghasnewydd.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff Nikitta Grender yn ei fflat ar stad Broadmead Park, yn Llyswyry, sydd i’r dwyrain o ganol y ddinas.

Yn ôl adroddiadau roedd hi’n feichiog ac yn disgwyl merch fach mewn pythefnos. Roedd hi’n byw gyda’i phartner ond doedd o ddim adref adeg y tân.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi yn ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl cynnal archwiliad post-mortem a gwneud ymholiadau pellach.

Dechreuodd y tân yn ystafell wely’r fflat tua 8am ddydd Sadwrn, medden nhw. Defnyddiodd y gwasanethau brys offer anadlu ac offer delweddu thermol er mwyn dod o hyd i gorff y ferch.

Maen nhw yn galw ar unrhyw lygaid dystion i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a oedd yn ardal Broadmead Park rhwng 11pm dydd Gwener 4 Chwefror a 8am y diwrnod canlynol gysylltu â’r heddlu.

Y rhif i’w ffonio yw 01633 838111 neu mae’n bosib siarad â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.