Mae mwy na 30 o ddiffoddwyr yn brwydro tân mewn gwesty pum seren.

Bu’n rhaid i ymwelwyr Llys Glangrwyney ger Crughywel adael yr adeilad gradd II neithiwr ar ôl i’r tân gydio.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys fod y tân wedi dechrau yn fuan cyn 9pm neithiwr ac yn parhau i losgi bore ma.

Mae’r gwesty ym Mannau Brycheiniog, sy’n cynnwys bythynnod a thiroedd, yn dyddio’n ôl i 1800.