Y Gweinidog Busnes Edwina Hart
Mae cwmni o Lanelli sy’n dylunio, cynhyrchu ac yn gosod systemau awtomeiddio a robotaidd soffistigedig yn treblu ei weithlu fel rhan o brosiect ehangu sylweddol.

Mae EBS Automation Ltd yn derbyn cymorth ariannol o £113,000 o’r Gronfa Twf Economaidd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn galluogi’r cwmni i ehangu ei weithlu o 16 i 50 o weithwyr yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae’r cwmni’n buddsoddi £250,000 ei hun yn ei gyfleusterau ym Mharc y Dafen.  Y nod yw gallu cynhyrchu mwy er mwyn dal i fyny  â’r gwerth tua £3 miliwn o archebion sydd ganddynt.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi EBS i ehangu ei uned gweithgynhyrchu a’i gyfarpar, adeiladu llawr ychwanegol i ail-leoli’r timau dylunio, a gosod cyfrifiaduron a systemau Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) 3D.

Trwy ehangu, bydd y cwmni’n gallu cyflenwi’r archebion sydd ar gynnydd gan ei gwsmeriaid presennol ym Mhrydainac Ewrop, a chymryd archebion gan gwsmeriaid posibl newydd o Tsieina, Rwsia ac India.

Wrth ymweld ag EBS, dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart: “Newyddion arbennig yw clywed am gwmnïau Cymreig yn ehangu, gan fuddsoddi a chreu swyddi mewn amodau masnachu anodd, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru’n gallu cefnogi’r cwmnïau i wneud hyn.

“Mae’r Gronfa Twf Economaidd yn cyfrannu’n fawr at dwf, gan roi cyllid i fusnesau na fyddent yn medru ei gael yn y modd traddodiadol, a’u galluogi i wneud y gorau o’u cyfleoedd.”