Y Gweinidog Addysg Leighton Andrews
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n buddsoddi dros £1.6 miliwn mewn dwy ganolfan Techniquest yng Nghymru er mwyn datblygu eu rhaglenni gwyddoniaeth a mathemateg i ysgolion.

Bydd Techniquest Caerdydd yn derbyn £1,300,600 gan y Llywodraeth, a Techniquest Glyndŵr yn Wrecsam yn derbyn £349,000.

Mae’r ddwy ganolfan yn darparu amrywiaeth o wasanaethau addysg trwy arddangosfeydd rhyngweithiol a deunyddiau dysgu sy’n cefnogi addysg ysgolion cynradd ac uwchradd.

Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd hediw yn caniatau’r ddwy ganolfan i gyflwyno rhaglenni sy’n edrych ar sbectrwm llawn y cwricwlwm, o’r cyfnod sylfaen i addysg 14-19 oed.

Mae rhan o’r datblygiad yn Techniquest Glyndŵr wedi cael ei deilwra yn arbennig i roi hwb i berfformiad Cymru yn y profion PISA.

Bydd y rhaglen waith ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 yn cynnwys diwrnod llawn o weithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac gyfer y disgyblion ‘mwy abl a thalentog’ yn ysgolion uwchradd Wrecsam a Sir y Fflint.

Yn ôl y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: “Un o brif amcanion y strategaeth hon, Gwyddoniaeth i Gymru, yw meithrin brwdfrydedd dros bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg o oedran ifanc.

“Wrth ysgogi diddordeb disgyblion yn gynnar, gallwn sicrhau bod mwy o’n pobl ifanc yn mynd ati i ragori yn y maes hwn gan ystyried gwyddoniaeth, mathemateg, technoleg neu beirianneg fel sylfaen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.”