Medwyn Williams, a gymhwysodd fel hyfforddwr awyr agored o dan y cynllun
Mae rhagor o help ar gael i siaradwyr Cymraeg i ddod yn hyfforddwyr gweithgareddau awyr agored.

Mae cynllun sydd wedi bod ar waith gan Fenter Iaith Conwy ers rhai blynyddoedd bellach wedi cael ei ymestyn i weddill siroedd y Gogledd.

O dan y cynllun, mae 75% o gostau cyrsiau cymhwyso ar gael i unigolion sy’n siarad Cymraeg i fod yn arweinyddion mewn unrhyw faes o fewn y sector awyr agored.

Cafodd y cynllun ei sefydlu’n wreiddiol gan Fenter Iaith Conwy mewn ymateb i waith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor ychydig flynyddoedd yn ôl mai dim ond 5% o holl weithwyr Awyr Agored yn ardal gogledd orllewin Cymru oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Er mwyn ehangu’r cynllun, llwyddodd y Fenter ar y cyd â Mentrau Iaith eraill y Gogledd i ddenu mwy o arian gan Gynllun Datblygu Gwledig Trawsffiniol Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae 147 o unigolion wedi cael eu hyfforddi i fod yn Arweinwyr Awyr Agored drwy’r cynllun yng Nghonwy dros gyfnod o dair blynedd.

Un o’r rhai a elwodd ar y cynllun yw Medwyn Williams o Fenllech.

“Heb y cyllid, mi fuasai wedi bod yn anodd iawn i mi gael y cymwysterau. Diolch i Menter Iaith Conwy, gan fy mod rŵan yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn y maes Awyr Agored,”meddai.

Gall unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio mewn ardal wledig yng ngogledd Cymru a hefo diddordeb mewn cwblhau cymhwyster awyr agored gysylltu â Bedwyr ap Gwyn neu Esyllt Tudur ar 01492 642357.