Mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu targedu’r BBC unwaith eto gyda “phrotest fawr arall” yng Nghaerfyrddin.

Bydd y brotest yn rhan o’u hymgyrch yn erbyn newidiadau i’r modd y mae S4C yn cael ei ariannu.

Diwedd fis diwethaf meddiannodd Cymdeithas yr Iaith fynediad swyddfeydd y BBC yn Llandaf, gan wrthod symud am fore cyfan.

Maen nhw’n anhapus â chynlluniau i dorri cyllideb S4C 25% erbyn 2015, a throsglwyddo’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel i ddwylo’r BBC.

Yn ogystal â phrotestio maen nhw hefyd yn galw ar bobol i roi’r gorau i dalu eu trwydded teledu, ac wedi cyhoeddi rhestr o 100 o unigolion sydd wedi ymrwymo i wneud hynny.

Mae’r BBC wedi ymateb gan ddweud mai penderfyniad Llywodraeth San Steffan oedd newid trefniadau ariannol S4C.

Fe fydd y “brotest fawr” diweddaraf yn cael ei gynnal y tu allan i swyddfeydd y BBC yng Nghaerfyrddin, ac yn cynnwys cerddoriaeth a siaradwyr, meddai’r Gymdeithas.

Yn ddiweddarach fe fydd y brotest yn targedu swyddfa Simon Hart, yr aelod seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y bydd y brotest yn cael ei chynnal ar 19 Chwefror, rhwng 10am a 1pm.