Adeilad y cyngor - maes y frwydr
Fe fydd un o frwydrau mawr yr etholiadau lleol diwetha’n cael ei hailadrodd wrth i Blaid Cymru a Llais Gwynedd fynd ben ben eto yn etholiadau’r cyngor sir.

Fe fyddan nhw’n wynebu’i gilydd mewn tua 30 o etholaethau ar draws y sir ar ôl pedair blynedd o wrthdaro yn siambr y sir.

Mae hynny wedi cynnwys beirniadu cyson ar ei gilydd yn y cyfryngau a chwynion aml i’r Ombwdsman Llywodraeth Leol.

Mae Llais Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen am frwydr arall gyda’u gelynion lleol yn ac yn honni y byddan nhw’n mynd â mwy o seddi oddi ar Blaid Cymru ar 3 Mai.

Ond mae gan Blaid Cymru ddwbwl yr ymgeiswyr sydd gan Llais Gwynedd ac maen nhw’n honni bod y mudiad gwleidyddol wedi chwythu ei blwc.

Dyblu – honiad Llais Gwynedd

Yn ôl arweinydd Llais Gwynedd, y Cynghorydd Owain Williams, mae’r blaid yn gobeithio hyd at ddyblu’r nifer o gynghorwyr sydd ganddyn nhw yng Ngwynedd – ond fe fyddai hynny’n golygu ennill bron pob gornest.

Wrth i’r cyfnod i enwebu ymgeiswyr gau am 12pm y prynhawn yma, mae Owain Williams yn dweud ei fod yn disgwyl gweld o leia’ 30 o ymgeiswyr yn ymgyrchu dros y blaid mewn wardiau gwahanol ar draws Gwynedd yn ystod y mis nesa’.

“Ein targed ydi ennill rhyw 20 o seddi y tro yma,” meddai wrth Golwg 360 heddiw gan fynnu eu bod bellach yn ymgyrchu ar nifer o bynciau, yn hytrach na chanolbwyntio ar gau ysgolion bach fel y tro diwetha’.

“Materion lleol sy’n bwysig,” meddai. “Mae cau ysgolion yn bwysig iawn, ond hefyd busnesau bach, llacio rheolau cynllunio, cartrefi preswyl, a diweithdra.”

Fe wadodd yr awgrym fod Llais Gwynedd wedi bwrw’i phlwc, gyda dau o’u cyn-gynghorwyr wedi cyhoeddi’n ddiweddar eu bod nhw’n sefyll dros Blaid Cymru.

“Mae rhai’n dweud bod Llais Gwynedd ar y ffordd i lawr. Ond y rhai sy’n ofni ni sy’n dweud hynny.”

‘Angen llais adeiladol’ – achos Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n “dawel hyderus” ynglŷn ag etholiadau’r Cyngor ar ôl cael colledion annisgwyl y tro diwetha’.

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards, mae’r Blaid mewn sefyllfa da i ymgyrchu eleni, ar ôl pedair blynedd lwyddiannus wrth y llyw yng Ngwynedd.

Mae’r Blaid wedi cyhoeddi fod ganddyn nhw 62 o ymgeiswyr yn sefyll y tro hyn, yn y 75 ward sydd yng Ngwynedd.

“Mae pobol Gwynedd eisio plaid sy’n gallu llywodraethu yn gyfrifol ac yn gadarn mewn cyfnod heriol,” meddai Dyfed Edwards.

“Mae’r momentwm bellach gyda Phlaid Cymru, nid Llais Gwynedd. Dri mis yn ôl roedd Llais Gwynedd yn sôn bod ganddyn nhw dros 50 o ymgeiswyr. Yn y cyfamser, mae dau wedi symud i Blaid Cymru,” meddai.

“Dydi pobol ddim eisiau plaid sy’n mynd i wneud dim ond tanseilio popeth, ond plaid sydd yn barod i fod yn adeiladol ac yn uchelgeisiol.”

I weld rhestr yr ymgeiswyr sy’n sefyll yng Nghwynedd, cliciwch yma.

Mae enwebiadau’r etholiadau lleol wedi cau ers hanner dydd – bydd rhagor o straeon wrth i’r manylion ddod i law.