Van Morrison
Van Morrison fydd prif berfformiwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed.

Dywed trefnwyr yr ŵyl eu bod nhw wedi gwirioni’n lân fod y canwr a’r cyfansoddwr o Belffast wedi cytuno i gymryd rhan eleni.

Mi fydd Van the Man yn camu ar Lwyfan Mynydd yr ŵyl nos Sadwrn, 18 Awst.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Barc Glanusk ger Crughywel rhwng 17 a 19 Awst eleni.

Ymysg y perfformwyr eraill fydd yn ymddangos yno eleni fydd y band o Gaerdydd, Islet; Cass McCombs, Ghostpoet, Willy Mason, C.W.Stoneking, Daughter, Dark Dark Dark a Joe Pug.

Bydd rhai o hoff artistiaid Gŵyl Sŵn Caerdydd, sy’n cael ei threfnu gan Huw Stephens a John Rostron, hefyd yn ymweld â’r Dyn Gwyrdd eleni.

Mi fydden nhw’n cynnwys Lucy Rose, KWES, Mowbird a Vadoinmessico.

Van Morrison fydd prif berfformiwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed.

Dywed trefnwyr yr ŵyl eu bod nhw wedi gwirioni’n lân fod y canwr a’r cyfansoddwr o Belffast wedi cytuno i gymryd rhan eleni.

Mi fydd Van the Man yn camu ar Lwyfan Mynydd yr ŵyl nos Sadwrn, 18 Awst.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Barc Glanusk ger Crughywel rhwng 17 a 19 Awst eleni.

Ymysg y perfformwyr eraill fydd yn ymddangos yno eleni fydd y band o Gaerdydd, Islet; Cass McCombs, Ghostpoet, Willy Mason, C.W.Stoneking, Daughter, Dark Dark Dark a Joe Pug.

Bydd rhai o hoff artistiaid Gŵyl Sŵn Caerdydd, sy’n cael ei threfnu gan Huw Stephens a John Rostron, hefyd yn ymweld â’r Dyn gwyrdd eleni.