Meri Huws
Mae’r Comisiynydd newydd dros yr iaith Gymraeg wedi addo y bydd hi’n cadw llygad ar y defnydd o’r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru llawn cymaint ag o fewn cyrff cyhoeddus.

Wrth annerch ei chynhadledd cyntaf i’r wasg yn Gomisiynydd y Gymraeg, dywedodd Meri Huws y byddai’n gweithredu’n annibynnol, yn diduedd ac yn gyson yn ei swydd newydd.

“Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni gyd yn sylweddoli mai nid dim ond edrych ar gyrff cyhoeddus ydyn ni’n ei wneud. Byddwn ni’n  rheoleiddio’r Llywodraeth hefyd,” meddai.

Mae cyn-Gadeirydd Bwrdd yr Iaith yn dweud ei bod hi’n bwriadu creu newid gweledol yn y ffordd mae sefydliadau’n trin y Gymraeg.

“Os yw ymddiriedolaeth iechyd wedi gwrthod gwasanaeth Cymraeg i glaf, rydw i eisiau gwybod amdano. Os oes rhaid i unigolyn aros yn hirach oherwydd eu bod nhw wedi gofyn am ffurflen yn Gymraeg, rydw i eisiau gwybod am hynny hefyd,” meddai.

“Mae’r holl bethau hyn, pethau mae siaradwyr Cymraeg wedi gorfod ymdopi â nhw am lawer rhy hir, yn golygu fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

“Fy mwriad i yw defnyddio pwerau’r swydd hon i roi stop ar hynny,” meddai.

‘Cam ymlaen’

Heddiw y daeth swydd newydd y Comisiynydd y Gymraeg i fodolaeth yn swyddogol, yn sgil penderfyniad y Llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan Fesur y Gymraeg 2011.

Mae cyn-gyfrifoldebau Bwrdd yr Iaith bellach wedi cael eu rhannu rhwng Llywodraeth Cymru, a’r Comisiynydd newydd.

Ond mynnodd Meri Huws heddiw nad oedd ei dwylo wedi eu clymu gan y ddeddf lywodraethol a greodd ei swydd.

“Mae’r mesur ei hunan yn gam sylweddol ymlaen. Mae’n ddarn o gyfraith, yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi ei greu yng Nghymru er budd y Gymraeg, felly mae hynny yn gam ymlaen yn y lle cyntaf. Mae’n rhoi statws i’r Gymraeg a ddyle ni ddim anghofio hynny, mae’r statws yn holl bwysig,” meddai.

“Ond mae’n fwy na dim ond mesur, mae’n fwy na chyfraith – mae’n rhaid i ni edrych ar y ffordd yr ydyn ni’n gweithredu. A’r bwriad yw ein bod ni yn gweithio fel corff annibynnol, ein bod ni yn ddiduedd, yn gyson ac yn gadarn,” meddai.

“Gweledigaeth yw hon o Gymru lle y bydd y Gymraeg yn gwbl ganolog mewn bywyd cyhoeddus, lle mae gan siaradwyr y Gymraeg yr hyder i ddefnyddio’r iaith, ac ymddiriedaeth yn y gyfraith i unioni unrhyw gam a ddaw i’w rhan am ddefnyddio’r Gymraeg.”