Bydd Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, John Griffiths, yn beicio’r 285 milltir o Gaergybi i Gaerdydd mewn ymdrech i roi sylw i’r llwybrau beicio hardd sydd ar gael yng Nghymru.

Bydd yn dechrau’r daith yfory, Dydd Sul y 1af o Ebrill, ac mae’n gobeithio cyrraedd Bae Caerdydd diwedd prynhawn Mercher.

Meddai John Griffiths, “Dw’n edrych ymlaen yn fawr iawn at feicio trwy gefn gwlad hyfryd Cymru gan wneud defnydd o rai o’n llwybrau beicio gwych sy’n denu gymaint o ymwelwyr i Gymru.

“Efallai y byddai 285 milltir braidd yn ormod i rai pobl, ond dwi’n annog pawb i fynd allan ar eich beic. Mae’n ffordd wych o gadw’n heini, ac yn ffordd bleserus o fwynhau arfordir a chefn gwlad unigryw Cymru, yn arbennig dros wyliau’r Pasg.

“Mae beicio hefyd yn aml yn ffordd gyflym, rhad a hawdd i wneud teithiau bychain a gall ein helpu ni i leihau ein dibyniaeth ar geir a thorri lawr ar ein hallyriadau carbon.”

Yn ystod ei daith, bydd y Gweinidog yn ymweld â Choed y Brenin sy’n enwog am ei lwybrau beicio mynydd; Carnfagallt, safle’r RSPB yn Rhayader a Merthyr, lle bydd yn cynorthwyo grŵp o bobl ifanc lleol i glirio sbwriel o ran o’r Llwybr Taf.

Bydd aelodau o staff y Llywodraeth a chynrychiolydd o Sustrans, yr elusen sy’n cefnogi teithio cynaliadwy, yn ymuno ag ef am rannau o’r daith.

Bydd yr arian a godir gan y daith yn mynd at elusennau swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni sef y Gymdeithas Alzheimer’s a Tools for Self Reliance Cymru.