Mae datganiad ar y cyd gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn feirniadol o Gyngor Sir Penfro, er maen nhw’n cydnabod fod mwy o dryloywder oddi fewn y Cyngor yn awr.

Mae’r datganiad yn nodi sut, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Estyn ar drafod a rheoli honiadau o gamymddwyn proffesiynol yn Sir Benfro, cyhoeddwyd cyfarwyddyd gan y Gweinidogion oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Cyngor fynd i’r afael â’r meysydd oedd o bryder dybryd i’r Gweinidogion.


Gwenda Thomas
Ym mis Hydref y llynedd doedd y Gweinidogion ddim wedi’u hargyhoeddi y gallai Cyngor Sir Penfro lwyddo i gymryd y camau “oedd eu hangen i newid heb gymorth a herio parhaus o’r tu allan.” Mi wnaeth y Llywodraeth, felly, benodi Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Sir Benfro i roi cymorth i’r Cyngor.

Ers i’r Bwrdd ddechrau gweithio gyda’r awdurdod, mae Leighton Andrews a Gwenda Thomas yn cydnabod bod pethau wedi gwella.

“Cafwyd mwy o dryloywder, gyda chyfarfodydd pwysig yn cael eu dogfennu’n iawn a’r papurau’n cael eu dosbarthu i’r Cyngor llawn: darparwyd gwybodaeth ble nad oedd dim ar gael cyn hynny; cafwyd mwy o gysylltiad rhwng y Prif Weithredwr ac aelodau sydd wedi’u hethol; a chymorth proffesiynol gyda chraffu.”

Mae’r cynghorwyr hefyd wedi derbyn yn gyffredinol yr angen i symud o ddiwylliant swyddogion cryf, “ble y mae craffu a thrafodaeth agored mwy neu lai yn absennol,” meddai datganiad Leighton Andrews a Gwenda Thomas.

Ond maen nhw’n dweud fod mwy o waith i’w wneud. “Nid newyddion da yw’r cyfan,” meddent.

“Mae’r bwrdd yn anghytuno gyda honiad yr awdurdod nad yw’r swyddogion bellach yn ymwrthod â’r newid,” medd y datganiad.

“Er bod brwdfrydedd ac ymrwymiad staff y rheng flaen wedi creu argraff fawr ar y Bwrdd, mae’r diwylliant ar y lefel uchel yn parhau i fod yn destun pryder. Noder bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad yn ei adroddiad bod y Cyngor yn tueddu i fod yn rhy hunanfodlon ac anffurfiol, gyda throsolwg ar lefel uwch ac yn wleidyddol o wasanaethau allweddol yn annigonol.”

Dywed Leighton Andrews a Gwenda Thomas y bydd Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Sir Benfro yn awr yn mynd ati i baratoi adroddiad erbyn diwedd Ebrill fydd yn llywio’r dull o weithio gyda’r Cyngor newydd, yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod y Cyngor llawn newydd, yr Arweinydd newydd a’r Cabinet cyn gynted â phosib ym mis Mai. “Byddwn yn parhau i fonitro’r datblygiadau yn fanwl,” medd y datganiad.