Fabrice Muamba
Mae’r myfyriwr a garcharwyd am drydar sylwadau sarhaus am bêl-droediwr yn wynebu cael ei ddiarddel o’i gwrs ym mhrifysgol Abertawe.

Heddiw collodd Liam Stacey ei apêl yn erbyn dedfryd o 56 diwrnod yn y carchar am ei sylwadau am Fabrice Muamba ar Twitter.

Mae’n disgwyl clywed a fydd e’n cael ei ddiarddel o’i gwrs. Roedd Liam Stacey ar dymor olaf ei gwrs gradd mewn bioleg.

Mae’n ymddangos bod y dedfryd am drosedd trefn gyhoeddus o natur hiliol wedi difetha breuddwyd Liam Stacey, 21, o fod yn wyddonydd fforensig.

Fis nesaf bydd swyddogion Prifysgol Abertawe yn cynnal gwrandawiad disgyblu i benderfynu p’un ai i ddiarddel y myfyriwr ai peidio.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe heddiw fod y myfyriwr wedi’i atal hyd nes y bydd y drefn ddisgyblu yn dod i ben .

Nid oes fawr o gydymdeimlad â Liam Stacey yn ôl un o olygyddion papur newydd myfyrwyr Abertawe, y Waterfront.

“Mae’r hyn ddywedodd e wedi synnu llawer o bobol ar y campws,” meddai Jon May.

“Mae llawer o bobol yn galw arno fe i gael ei ddiarddel. Dyw’r holl fusnes ddim wedi bod yn stori newyddion dda i’r brifysgol.”

Yn ôl yr arbenigwr ar gyfraith y cyfryngau, David Banks,  mae achos Liam Stacey yn rhybudd i ddefnyddwyr gwefan Twitter

“Dyw’r hyn r’ych chi’n sgwennu ar Twitter ddim yr un peth â’r hyn fyddwch chi’n ei ddweud lawr y dafarn. Gall yr hyn ddywedwch chi ar Twitter gael ei chwyddo a’i weld gan gymaint o bobol,” meddai.

“Mae dedfryd Liam Stacey yn ymddangos yn hallt o bosib ond mae’n anfon neges glir i bobol – os sgwennwch chi neges hiliol yna cewch chi’ch cosbi.”