Ieuan Wyn Jones
Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi dweud bod y rhagolygon ar gyfer datblygu atomfa niwclear newydd yn Wylfa yn “bositif”, ac y bydd cynllun prentisiaeth y Wylfa yn parhau.

Roedd Ieuan Wyn Jones yn rhan o ddirprwyaeth a fu’n cyfarfod heddiw â Phrif Swyddog Gweithrediadau Horizon, Alan Raymant.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones fod Horizon wedi gwneud llawer o waith paratoi ar y safle, yn ogystal â sefydlu cynllun prentisiaeth yng Ngholeg Menai.

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i bobl ifanc sydd am weithio ar yr ynys yn y dyfodol,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod hwn hefyd yn cael cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru”.

Mae cwmni Horizon ynfenter gan RWE npower ac E.ON UK, sydd bellach yn chwilio am berchennog newydd ar gyfer y Wylfa.

“Dywedodd Horizon wrthym y byddai RWE npower ac E.ON yn arwain o ran dod o hyd i berchennog newydd ar gyfer prosiect gorsaf newydd i’r Wylfa”, meddai Ieuan Wyn Jones.

“Byddaf yn pwyso ar lywodraethau Cymru a’r DU i wneud datganiadau clir iawn o gefnogaeth i ddiogelu perchnogaeth newydd”.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw fod “llawer iawn o ddiddordeb yn safle Wylfa B” ond bod “ffordd bell i fynd eto”.

“Hanfodol i economi’r ynys”

Pwysleisiodd Ieuan Wyn Jones bwysigrwydd cael datblygiad newydd yn Wylfa i’r economi leol.

“Mae’n amlwg fod angen i’r gymuned leol barhau i gyd-weithio i ddelifro’r prosiect yma sydd yn hanfodol i ddyfodol economi Ynys Môn.

“Mae oedi yn y prosiect yn anochel, ond o gofio’r gwaith paratoi sydd eisoes wedi ei wneud gellir cadw’r oedi hwnnw’n fyr.”