Mae’r cyn-Archdderwydd, Emrys Roberts, wedi marw yn 82 oed.

Roedd yn Archdderwydd rhwng 1987 a 1990 dan yr enw barddol Emrys Deudraeth. Enillodd y Gadair ddwywaith, yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967 am ei awdl  Y Gwyddonydd ac ym Mangor yn 1971 am ei awdl Y Chwarelwr.

Ganwyd ef yn Lerpwl yn 1929 ac fe’i magwyd ym Mhenrhyndeudraeth ac yna ym Mhorthmadog.

Addysgwyd ef yn Ysgol y Bermo a’r Coleg Normal ym Mangor. Roedd yn athro yn brifathro yn Ysgol y Banw yn Llangadfan, Powys.

Roedd wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth, i oedolion a phlant, yn ogystal â nofelau i blant.