Mae Cyngor Wrecsam wedi pleidleisio i wrthwynebu codi miloedd o “dai di-angen” yn y sir.

Ddydd Mercher rhoddodd grŵp Plaid Cymru gynnig gerbron cyfarfod llawn o’r Cyngor i wrthwynebu bwriad Cynulliad Cymru i godi bron i 12,000 o dai yn y sir.

Pleidleisiodd y cynghorwyr o blaid y cynnig, a dywedodd y Cynghorydd Marc Jones fod y bleidlais yn anfon neges glir i’r Cynulliad a’r arolygaeth gynllunio.

“Mae’r bwriad i godi miloedd o dai yn seiliedig ar fewnlifiad i’r ardal ac nid ar dŵf naturiol yn y boblogaeth leol,” meddai.

“Nid yw codi tai i bobl ddŵad yn gynaliadwy nac yn ateb anghenion y gymuned leol.

“Rydym ni wedi cynnal ymgynghoriad ar y cynllun datblygu lleol a mae pobol yn wrthwynebus i godi mwy o dai. Beth yw’r pwynt cynnal ymgynghoriad os nad oes bwriad ystyried y peth?

“Os hoffai’r Cynulliad godi mwy o dai yna ‘dan ni’n eu herio nhw i ddangos pa dir glas rydym ni fod datblygu arno yn Wrecsam.

“Mae Cyngor Conwy eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad nhw i fwriad y Cynulliad i godi mwy o dai a hoffwn i weld cynghorau eraill yn ymuno â ni. Gaiff Llywodraeth y Cynulliad weld pa mor gryf mae teimladau pobol ar y mater yma”.

Ychwanegodd Marc Jones, “Rydym ni’n disgwyl cyhoeddi ffigurau’r Cyfrifiad eleni ac os bydd y rheiny’n dangos twf ym mhoblogaeth yr ardal sydd y tu hwnt i’r norm yna bydd hynny’n cefnogi ein safbwynt ni.”