Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews, wedi penderfynu dyfarnu £35,000 i Fenter Môn heddiw er mwyn diogelu dyfodol llinell gymorth sy’n cynnig cyfieithiadau i’r Gymraeg.

Daw’r penderfyniad yn sgil adroddiadau yn y wasg fod busnesau’n anhapus bod y gwasanaeth ar fin dod i ben yn sgil dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfieithiadau am ddim o ddarnau byr o destun ar gyfer sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector.

Dyfarnwyd y cyllid er mwyn sicrhau y gall y Llinell Gyswllt â’r Gymraeg barhau yn ystod blwyddyn ariannol 2012/13.  Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd yn gyfrifol am ariannu’r gwasanaeth hwn ynghynt.

“Rydym wedi ymrwymo i hybu’r Gymraeg, gan sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu,” meddai Leighton Andrews.

“Hoffem weld rhagor o sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector yn defnyddio’r Gymraeg a byddwn yn cynnig pob cymorth iddynt wneud hynny.

“Mae’r Llinell Gyswllt â’r Gymraeg wedi bod yn adnodd gwerthfawr iawn i fusnesau’r sector preifat a sefydliadau’r trydydd sector ar draws Cymru.

“Mae hyn wedi sicrhau bod rhagor o Gymraeg i’w gweld mewn gwahanol fannau ac mae wedi ennyn llawer o ewyllys da.

“Mae hefyd wedi annog llawer o sefydliadau i roi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Menter Môn, Gerallt Llewelyn Jones, eu bod nhw’n falch o gael parhau’r gwasanaeth.

“Rydym yn falch iawn fod y Gweinidog wedi dyfarnu’r grant hwn, a fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf,” meddai.

“Mae’r Llinell Gyswllt â’r Gymraeg wedi cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i lawer o fusnesau a sefydliadau gwirfoddol sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg am y tro cyntaf.

“Byddwn yn mynd ati yn awr i ystyried sut y gall y gwasanaeth hwn ddechrau ariannu ei hun yn y dyfodol.”