Simon Thomas
Mae Simon Thomas, y dyn wnaeth encilio o’r ras arweinyddol er mwyn cefnogi Elin Jones, yn bendant y bydd pawb yn dod yn ffrindiau mynwesol unwaith eto ac yn uno tu ôl i Leanne Wood. Roedd pob un o Aelodau Cynulliad y Blaid namyn dau wedi cefnogi Elin Jones.

“Mae’n amlwg bod yr Aelodau Cynulliad wedi teimlo bod rhywun oedd wedi bod yn Weinidog eisiau cael cefnogaeth. Ond does dim unrhyw ofn gyda fi y bydd yna unrhyw raniadau o gwbl achos dw i’n meddwl bod y polisïau sydd gan Leanne yn rhai sydd gan y Blaid gyfan.”

Yn ystod yr ymgyrch mi rybuddiodd Simon Thomas yn erbyn gwleidyddiaeth ‘Fisher Price’, sef gwleidyddiaeth anaeddfed. Mi oedd hwn yn sylw yr oedd nifer yn teimlo oedd wedi ei gyfeirio at Leanne Wood.

“Gadewch i fi wneud e’n glir i ddechrau, yn sicr doeddwn i ddim yn cyfeirio at Leanne a doeddwn i ddim yn cyfeirio at Adam Price chwaith achos dyna ddau wleidydd sylweddol iawn,” meddai’r AC dros y Canolbarth.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 29 Mawrth