Adam Price
Does dim bwriad gan Adam Price herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru, ac mae’n rhagweld mai hi fydd wrth y llyw am o leiaf deng mlynedd.

“Mae gan Leanne rinweddau sydd ddim gyda fi, ac mae hi’n well arweinydd na fi ar gyfer y sefyllfa rydyn ni ynddi. Mae hyn yn waith degawd,” meddai’r cyn-Aelod Seneddol cyn cymharu’r ddau i geffylau rasio.

“Mae’n gallu gwneud y Grand National lle rwy’n fwy o derby, rhedeg ar y fflat ac yn y blaen. Ry’ch chi angen y ddau efallai mewn mudiad. Ond mae gyda hi’r stamina yna sydd angen ar y Blaid ar hyn o bryd.”

Ond mae’n cydnabod bod yna bosibilrwydd y bydd yn dod yn Aelod Cynulliad yn y dyfodol ar ôl i’w gyfnod ym mhrifysgol Havard, yr Unol Daleithiau ddod i ben.

“Yn 2016 gobeithio bydd yna doreth o ymgeiswyr newydd gyda ni ac os oes cyfle gen i fod yn un ohonyn nhw, grêt. Os na, fe fydda’ i’n dal i gyfrannu. Nid job yw bod yn aelod o Blaid Cymru, mae’n genhadaeth. Dw i’n dal yma a bydda’ i yma beth bynnag yw’r ffordd alla’ i gyfrannu.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 29 Mawrth