Mae llyfr am fôr-ladron gan awdur ac artist o Gymru wedi maeddu môr-leidr enwog arall wrth gipio Gwobr Llyfrau Plant cwmni Waterstone’s.

Enillodd Jonny Duddle, o’r Wyddgrug, y wobr £5,000 am ei lyfr The Pirates Next Door.

Curodd 17 o awduron eraill, gan gynnwys seren y ffilm Pirates Of The Caribbean, Mackenzie Crook.

Roedd Mackenzie Crook, sy’n chwarae rhan Ragetti yn y ffilmiau, wedi ei enwebu am ei lyfr The Windvale Sprites.

Yn ogystal ag ysgrifennu a darlunio’r llyfr am fôr-ladron, roedd Jonny Duddle yn artist ar y ffilm wedi’i animeiddio newydd The Pirates! In An Adventure With Scientists.

Dywedodd fod y llyfr arobryn wedi ei ysbrydoli yn rhannol gan flwyddyn y treuliodd yn gweithio ar long hynafol.

Dywedodd Melissa Cox, o adran plant Waterstone’s, fod y llyfr yn haeddu’r wobr gyntaf.

“Mae’n llyfr hwyl ac wedi gwneud argraff fawr ar blant yn siopau Waterstone’s ledled y wlad . Mae Jonny yn enw mawr newydd ym myd llyfrau plant,” meddai.