Dafydd Wigley
Mae Plaid Cymru yn honni y bydd trethdalwyr Cymreig yn talu i leihau cyfraddau-dŵr yn Ne-orllewin Lloegr a thuag at adeiladu prosiect £4.1 biliwn i wella gwasanaethau carthffosiaeth yn Llundain.

Dyma, meddent mewn datganiad prynhawn ʼma, ganlyniad uniongyrchol Mesur (Cymorth Ariannol) y Diwydiant Dŵr, a gafodd ei Drydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gynnar bore heddiw.

Cafodd y Llywodraeth ei herio gan yr Arglwydd Dafydd Wigley  a fynnodd, gan nad yw’r mesur yn caniatáu taliadau tebyg i Gymru gan fod dŵr yn fater datganoledig, y dylai taliad ôl-ddilyniant Barnett ddod i’r Cynulliad Cenedlaethol yn unol gyda’r gwariant a alluogir yn Lloegr gan y Mesur hwn.

Fe wnaeth yr Arglwydd Taylor o Holbeach, Gweinidog y Llywodraeth oedd yn ymateb i’r ddadl, ei orau i osgoi unrhyw ymrwymiad.

Er hynny, awgrymodd yr Arglwydd Taylor pe bai unrhyw gynlluniau newydd i symud dŵr o gyflenwadau Cymru yn y dyfodol i daclo prinder dŵr yn Lloegr, yna “dylai unrhyw drefniant o’r fath gael sêl bendith yr awdurdodau datganoledig Cymreig.

“Mae’r sicrwydd na fydd yno unrhyw brosiectau newydd i symud dŵr o Gymru heb gytundeb y Cynulliad yn ddatganiad arwyddocaol,” meddai Dafydd Wigley

“Er hynny mae’r cwestiwn am system taliad teg ar gyfer dŵr a gymerir o Gymru i’w ddefnyddio yn Lloegr yn parhau heb ei ateb. Mae’r cwestiwn ynglŷn ag ôl-ddilyniant Barnett am y gwariant a ddarperir gan y Mesur hwn yn fater mawr a all fod werth dros £100m i’r Cynulliad.”

Cododd yr Arglwydd Wigley y mater unwaith eto yn yr Arglwyddi yn ystod sesiwn holi’r bore yma.

“Cefais addewid gan yr Arlgwydd Taylor y byddai’n ysgrifennu ataf am yr ôl-ddilyniant Barnett ac rwy’n edrych ymlaen at ddarllen ei ymateb,” meddai.

“Mae hefyd angen symud tuag at system fwy cyfiawn ble y gall Cymru elwa o’i hadnoddau naturiol helaeth.”