Bu Dr Hourmann yn gweithio i Heddlu Dyfed Powys
Mae meddyg a fu’n gweithio i Heddlu Dyfed Powys yn ymddangos o flaen panel ymddygiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol heddiw am nad oedd wedi dweud wrth yr awdurdodau ei fod wedi cael ei gyhuddo a’i ddedfrydu’n euog o ddynladdiad.

Yn 2009 derbyniodd Dr Marcos Ariel Hourmann ddedfryd o garchar wedi’i ohirio gan Lys Sirol yn Tarragona, Sbaen, am gynorthwyo person a oedd yn ddifrifol wael mewn ysbyty yn y wlad i farw.

Ers hynny bu Dr Hourmann, 52 oed, yn gweithio fel meddyg yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli,  a bu hefyd  yn gweithio fel arolygydd meddygol fforensig i Heddlu Dyfed Powys.

Yn y gwrandawiad ym Manceinion heddiw honnir bod Dr Hourmann wedi methu â hysbysu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ei fod wedi cael ei ddedfrydu o ddynladdiad  a’i fod e wedi ateb ‘Na’ i gwestiwn ynglŷn ag euogfarnau troseddol blaenorol wrth ymgeisio am waith gyda dwy ymddiriedolaeth iechyd.

Honnir hefyd nad oedd wedi datgan yr euogfarnau i Heddlu Dyfed Powys, a bu’n gweithio iddyn nhw am dros ddwy flynedd.

Mae disgwyl y bydd y gwrandawiad yn parhau am ddau ddiwrnod arall.