Mae ficer o Sir Benfro wedi gorfod ail-gofrestru priodas ar ôl i’r Swyddfa Gartref ddweud wrtho nad oedd hawl ganddo i gofrestru’n Gymraeg yn unig.

Derbyniodd Aled Huw Thomas o Landudoch lythyr yn nodi fod hawl dan Ddeddf Briodas 1949 i gofrestru priodas yn ddwyieithog, ond nad oedd hawl gwneud hynny’n Gymraeg yn unig ac y byddai rhaid iddo ail-gofrestru’r briodas.

“Yn wahanol i lot o’r capeli, mae offeiriaid plwyf yr eglwys yn gofrestryddion eu heglwys ac felly’n cyflawni gweithred gyfreithiol mewn priodas eglwys,” esboniodd Aled Huw Thomas.

“Hynny yw, ‘sdim angen bod cofrestrydd o’r swyddfa gofrestru leol yno hefyd.

“Ar ôl danfon fy ngwaith papur chwarterol at Swyddfa’r Cofrestrydd yn Hwlffordd fe dderbyniais i lythyr Saesneg oddi wrth y Swyddfa Gartref yn dweud bod yn rhaid i fi gofrestru’r briodas eto.

“Mae’n drueni nad oes modd cydymffurfio ag awydd y parau ifanc i gofrestru eu priodas yn uniaith Gymraeg.

‘Eironi’
“Eironi’r peth yw bod nifer o dystysgrifau cyfreithiol, megis fy nhystysgrif gradd i, yn uniaith Ladin!”

Un sydd wedi ymgyrchu i geisio cael yr hawl i gofrestru’n Gymraeg yw Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams.

“Mae priodas yn un o ddigwyddiadau mawr bywyd ac am yn rhy hir mae cyplau sydd am gofrestru’n Gymraeg yn unig yn gorfod goddef y Saesneg hefyd,” meddai Hywel Williams.

“Bydd rhaid newid y gyfraith er mwyn caniatáu tystysgrifau Cymraeg. Fe gyflwynais i fesur preifat yn San Steffan er mwyn newid y gyfraith ond fe wrthododd y Llywodraeth Lafur bryd hynny â rhoi amser i drafod y mesur. Dwi’n sicr mai dyna fyddai ymateb y Ceidwadwyr hefyd”.