Wylfa
Mae adroddiad newydd yn rhybuddio fod oes ynni niwclear bellach wedi dod i ben, ac na ddylai rhagor o arian gael ei fuddsoddi mewn prosiectau fel Wylfa B.

Yn ôl yr adroddiad gan grŵp Energy Fair, dyw hi ddim yn talu i fuddsoddi mewn pwerdai niwclear bellach oherwydd y risg machanchol sydd ynghlwm wrthyn nhw.

Mae’r adroddiad – ‘Y peryglon ariannol o fuddsoddi mewn pwerdai niwclear newydd’ – yn dweud bod gymaint o gystadleuaeth am ffyrdd i gynhyrchu trydan erbyn hyn fel bod sylfaeni masnachol y diwydiant yn mynd yn fwy bregus.

Horizon yn wfftio’r adroddiad

Ond mae cwmni Horizon, sy’n gyfrifol am y cynllun i godi Wylfa B, yn wfftio’r adroddiad gan fudiad sydd “yn gwrthwynebu unrhyw ddatblygiadau niwclear newydd.”

Yn ôl llefarydd ar ran Horizon, mae “Cymru, ynghyd â’r DU, yn wynebu sialensau ynghylch newid hinsawdd, diogelwch cyflenwi ynni a biliau ynni sydd yn codi. Mae amrywiaeth o ffynonellau ynni, gan gynnwys ynni adnewyddol a niwclear, yn hanfodol i gyflenwi ynni fforddiadwy o fewn economi carbon isel.”

Ond mae’r adroddiad yn mynnu mai seiliau sigledig iawn sydd i adeiladu’r wyth pwerdy newydd sydd wedi cael eu caniatau gan San Steffan erbyn 2025, gan gynnwys Wylfa B ar Ynys Môn.

“Erbyn i bwerdy niwclear newydd gael ei adeiladu yn y DU, bydd y farchnad ar gyfer ei drydan yn diflannu,” medd yr adroddiad.

“Bydd y gostyngiad ym mhris dulliau adnewyddol wedi disgyn, a gyda’r farchnad fewnol Ewropeaidd ar gyfer trydan yn debygol o gael ei gwblhau, mae’n debygol y bydd defnyddwyr bach a mawr yn cael eu harfogi ar gyfer creu llawer o’u trydan eu hunain, neu ei brynnu o lefydd eraill yn Ewrop.”

Ond mae Horizon yn wfftio’r rhybuddion hyn, gan fynnu bod y diwydiant niwclear yn ddigon hyblyg i wrthsefyll pwysau’r farchnad.

Maen nhw hefyd yn wfftio’r rhybudd yn yr adroddiad fod ynni niwclear yn ddibynnol ar gefnogaeth bregus iawn y Llywodraeth.

‘Trychineb niwclear’

Yn ôl yr adroddiad, mae ynni niwclear yn “dibynnu’n drwm ar gymorthdaliadau a allai gael eu hatal ar unrhyw adeg trwy gwynion ffurfiol i’r Comisiwn Ewropeaidd, neu trwy weithredu cyfreithiol, neu trwy benderfyniad gwleidyddion.

“Bydd y drychineb niwclear nesaf – ac mae’r byd wedi gweld un bob 11 mlynedd ar gyfartaledd yn ddiweddar – yn debygol o arwain at weithredu mwy pendant gan wleidyddion yn erbyn ynni niwclear.”

Ond yn ôl Horizon, mae eu cynllun busnes nhw yn llawer mwy cadarn na’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio yn yr adroddiad.

“Gall ynni niwclear newydd gael ei ddatblygu heb gymhorthdal, ac mae’r broses lywodraethol o ddiwygio’r farchnad drydan yn hanfodol er mwyn creu cyfartaledd a fydd yn denu datblygwyr i fuddsoddi mewn cymysgedd eang o dechnolegau.”

Mae Horizon hefyd yn mynnu y bydd eu cynllun yn fanteisiol iawn i Ynys Môn ar ei hyd.

“Bydd ein datblygiad arfaethedig ar gyfer Wylfa yn gallu cynhyrchu dros 3GW o ynni carbon isel mewn modd diogel a fforddiadwy, gyda chyfleoedd arbennig am gyflogaeth, a buddiannau sylweddol i economi Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.”