Peter Hain
Mae cyn-Ysgrifenydd Cymru a Gogledd Iwerddon, Peter Hain, yn wynebu achos o ddirmyg llys  yn ymwneud â sylwadau beirniadol a wnaeth o farnwr yn ei hunangofiant.

Mae’r Twrne Cyffredinol dros Ogledd Iwerddon, John Larkin, wedi cael yr hawl i erlyn Peter Hain a Biteback Publishing yn ymwneud â honiad bod y sylwadau yn “tanseilio gweinyddiaeth cyfiawnder.”

Ond mae’r Aelod Seneddol dros Gastell Nedd Port Talbot wedi addo amddiffyn rhyddid mynegiant yn erbyn yr hyn mae ei gyhoeddwyr yn ei alw’n gyfraith “annelwig iawn, sydd erioed wedi cael ei ddefnyddio mewn hanes cyfoes.”

Cafodd ei sylwadau ynglyn â’r ffordd y deliwyd ag un achos penodol gan yr Arglwydd Ustus Grivan gryn ymateb ym Melffast pan gafodd y llyfr ei gyhoeddi’r llynedd.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Syr Declan Morgan fod y sylwadau’n “ymosodiad posib ar annibynniaeth ehangach y farnwriaeth.”

Amddiffyn ei sylwadau

Ond mae Peter Hain, sydd bellach yn llefarydd Llafur dros faterion Cymreig, yn dal i amddiffyn y sylwadau, ac wedi ategu llawer ohonyn nhw – cam sydd wedi ysgogi’r achos cyfreithiol gan John Larkin.

Mewn datganiad, dywedodd y cyhoeddwyr fod yr achos wedi cael ei ganiatau yr wythnos ddiwethaf gan yr Arglwydd Ustus Higgins, ac mae disgwyl i’r achos gael ei ystyried o flaen Llys Adrannol Belffast ar 24 Ebrill.

Mae’r Twrne Cyffredinol yn dweud fod y sylwadau, sy’n ymwneud â phenodiad Bertha MacDougall fel comisiynydd dioddefwyr dros dro, yn “gamdriniaeth ddiangen o farnwr yn rhinwedd ei swydd farnwrol, sy’n tanseilio gweinyddiaeth cyfiawnder yn yr awdurdodaeth hon, ac o ganlyniad yn gyfystyr â dirmyg llys.”

Cytunwyd fod y cyhoeddi yn creu “risg gwirioneddol y byddai hyder y cyhoedd yn y system farnwrol yn cael ei danseilio, a hynny heb gyfiawnhad.”

‘Sylwadau wedi gwaethygu’r mater’

Daeth y Twrne Cyffredinol i’r farn fod sylwadau diweddarach Peter Hain ar y mater wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Dywedodd Peter Hain heddiw ei fod yn “synnu at y digwyddiadau diweddaraf. Fe weithiais i’n galetach nag unrhyw un fel Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon i gynnal gair y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth, a chyflawni’r cytundeb yn 2007 a lwyddodd i sicrhau hynny.

“Os yw rhyddid i fynegi a gwneud sylwadau mewn hunangofiant gwleidyddol i gael ei atal, bydd hawl gan bobol i ofyn beth sydd wedi goroesi o’r system gyfiawnder?”

Yn ôl cyhoeddwyr y llyfr, Outside In, cafodd llawysgrif y llyfr ei brawf-ddarllen gan Swyddfa’r Cabinet a Swyddfa Gogledd Iwerddon cyn mynd i’r wasg – fel sy’n arferol i hunangofiannau gwleidyddol – ond nad oedd yr un o’r ddwy swyddfa wedi awgrymu y dylid newid y sylwadau.