Syr Wynff a Plwmsan
Bydd dau o gymeriadau plant enwocaf oes aur S4C yn ceisio gwneud sbloets ym myd gwleidyddiaeth yn ystod y misoedd nesaf – gan sefyll dros Blaid Cymru yn etholiadau’r Cyngor.

Mae Mici Plwm, neu ‘Plwmsan y Twmffat bach Twp’, a Wynford Elis Owen, neu ‘Syr Wynff ap Concord y Bos’, wedi diddanu cenedlaethau o blant Cymru gydag ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ond ceisio ennill cefnogaeth pleidleiswyr fydd eu tasg ar 3 Mai.

Bydd Mici Plwm yn sefyll dros Ward Clynnog yng Ngwynedd, tra bod Wynford Ellis Owen yn sefyll dros ward Creigiau a Sain Ffagan yng Nghaerdydd.

Mae’r sedd y bydd Mici Plwm yn brwydro amdani yn nwylo Llais Gwynedd ar hyn o bryd, ond mae’r diddanwr yn hyderus y gall ei hadennill i’r Blaid.

Mae ward Creigiau a Sain Ffagan eisoes yn nwylo’r Blaid, ond gan fod y cynghorydd presennol, ac Arglwydd Faer Caerdydd, Delme Bowen, yn ildio’i sedd eleni, mae’r gangen lleol wedi enwebu Wynford Ellis Owen i gymryd ei le.

Mae’r ddau mewn sefyllfaoedd cryf iawn i ennill eu seddi dros y Blaid – ond mae dros bum wythnos arall o ymgyrchu rhyngddyn nhw a’r blychau pleidleisio ar 3 Mai.

Yn ôl Mici Plwm, sydd bellach yn rhedeg cwmni cysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau ym Mhen Llŷn, mae’n hyderus y gall wneud gwahaniaeth wrth sefyll dros Blaid Cymru.

“Dwi’n credu y bydd Plaid yn creu cyfleoedd ar gyfer aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys ein pobl ifanc a phobl hŷn,” meddai.

“Plaid sydd â’r gallu i roi cyfle i’r bobl hyn leisio eu barn ar faterion lleol sy’n bwysig iddyn nhw ac i ddarganfod datrysiadau positif gyda’n gilydd.”