Cafodd diffoddwyr tân eu galw i dân wair ger clwb golff yng Nghwm Tawe neithiwr.

Cafodd pedwar o griwiau tân eu galw i’r safle ym Mhontardawe tua 8.15pm nos Lun. Roedd diffoddwyr tân yn dal i geisio diffodd y fflamau mewn cae ger Clwb Golff Pontardawe am 10.30pm, ar ôl i’r tân ledu.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân ei bod hi’n rhy gynnar i ddarganfod beth oedd achos y tân.

Daw’r digwyddiad lai na 24 awr ar ôl i swyddogion tân gadarnhau bod na gynnydd mawr mewn bod mewn tannau gwair yn ne Cymru dros y penwythnos.

Roedd un o’r achosion gwaethaf ar dir ym Mryn Arw ger Y Fenni, Sir Fynwy – fe gymrodd naw awr i ddod â’r tân dan reolaeth.

Dywedodd Chris Hadfield o  Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Fe gawson ni gynnydd sylweddol yn nifer y galwadau dros y penwythnos. Mae tannau gwair yn gallu lledu’n gyflym ac yn rhoi pwysau ychwanegol arnom ni.

“Mae’n anodd dweud os ydy tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol onibai ein bod ni’n dal rhywun gwneud hynny. Ond dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod na dywydd braf a thannau gwair.”

Ychwanegodd bod y gwasanaeth tân yn gweithio gyda’r heddlu i sicrhau bod timau arbenigol yn sefydlu patrol yn yr ardal.