Llun: Heyrn yn y Tan, Gwasg Pantycelyn
Bu farw Gwilym E Humphreys, prifathro cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen a chyn-Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd, yn 80 oed.

Bu’n ffigwr amlwg yn nhŵf addysg Gymraeg fel athro, prifathro, arolygwr ysgolion a chyfarwyddwr addysg.

Ganed ef yn Wallasey ar Lannau Mersi ond cafodd ei fagu yn Rhosllannerchrugog. Ar ôl cyfnod yn dysgu yn Llangefni ac yng Nghaerleon cafodd ei benodi yn 1963 yn Brifathro Ysgol Gyfun Gymraeg newydd Rhydfelen ger Pontypridd, ac yntau’n 29 oed.

O 1983 i 1994 bu’n Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Heyrn yn y Tân: Atgofion Addysgwr yn 2000.

Mae’n gadael gwraig a dau o blant.