Ysgol Gynradd Dihewyd
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi gohirio penderfyniad ar dynged ysgol gynradd yn y sir heddiw.

Mewn cyfarfod arbennig o’r Cabinet i drafod dyfodol Ysgol Gynradd Dihewyd, ger Aberaeron, fe benderfynodd y Cabinet bod angen mwy o wybodaeth arnyn nhw cyn medru gwneud penderfyniad.

Fe bleidleisiodd pob un oedd yn y cyfarfod, heblaw un, o blaid gohirio’r penderfyniad nes bod mwy o wybodaeth ar gael.

Daw’r cyfarfod arbennig hwn wedi i’r Cyngor llawn benderfynu, o 13 pleidlais i 12, y dylid rhoi hyd at blwyddyn a naw mis o ras i’r ysgol gael cyfle i adennill nifer y disgyblion.

Ar hyn o bryd mae 13 o ddisgyblion yn yr ysgol, ond mae ymgyrchwyr yn hyderus y gellid codi’r nifer hwnnw uwchlaw’r trothwy o 16 disgybl erbyn mis Rhagfyr eleni.

Roedd yr argymhelliad gerbron y Cabinet heddiw yn gofyn am “ganiatau i’r ysgol aros ar agor tan ddiwedd Rhagfyr 2012, a pharhau i ariannu dwy swydd addysgu am y cyfnod hwnnw. Os yw nifer y disgyblion wedi cynyddu i 16 erbyn hynny, bod yr ysgol yn cael blwyddyn arall i ganiatáu iddi sefydlogi cyn cael ei hadolygu.”

‘Siomedig’

Ond heddiw fe benderfynodd y Cabinet i ofyn am fwy o wybodaeth cyn cymeradwyo neu wrthod argymhelliad y Cyngor llawn.

Yn ôl Hywel Ifans, un o’r ymgyrchwyr dros gadw Ysgol Gynradd Dihewyd ar agor, mae’r penderfyniad yn un “siomedig i ddweud y lleia’.”

Mae’r penderfyniad, sydd yn dod ar drothwy’r ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Cyngor, yn un sy’n gadael plant a rhieni “mewn limbo,” meddai.

“Mae’n anodd credu ein bod ni’n ôl yn y sefyllfa hyn. Ro’dd yr holl wybodaeth allai fod ei angen arnyn nhw o’u blaen nhw heddi,” meddai Hywel Ifans, sydd yn cyfaddef fod y penderfyniad i ohirio yn well na’r penderfyniad i gau.

“Ond mae’n angrhediniol ein bod ni’n gorfod ymladd am y cyfle i achub yr ysgol ’ma,” meddai.

“Mae cymuned gyfan wedi cael ei ansefydlogi gan y bygythiad i’r ysgol. Ond ma’ hynny yn fêl ar fysedd y rhai sydd eisiau gweld yr ysgol yma’n cau,” meddai.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd y cyfarfod nesaf i drafod dyfodol Ysgol Gynradd Dihewyd ei hun yn gorfod cael ei ohirio, wrth i’r Cyngor gyhoeddi dechrau ar gyfnod swyddogol o etholiad bore fory. Os bydd hynny’n digwydd, bydd yn rhaid aros tan ar ôl etholiadau mis Mai cyn cael penderfyniad ar ddyfodol yr ysgol.