Mae merch 17 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Benfro.

Cafodd chwech o bobl eu hanafu yn y ddamwain a ddigwyddodd am 3.20pm ddydd Sul ar yr A487 rhwng Niwgwl a Solfach, ger safle filwrol Breudeth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Seat Ibiza coch oedd yn teithio i gyfeiriad Niwgwl, a Honda CRV 4×4 glas tywyll oedd yn teithio i gyfeiriad Solfach.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw sydd â gwybodaeth i’w ffonio nhw ar 101.