Ysgol Gynradd Dihewyd
Bydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cyfarfod i bleidleisio ar ddyfodol  ysgol gynradd yn y sir y prynhawn yma.

Bydd aelodau’r Cabinet yn cyfarfod i bleidleisio ar argymhelliad y Cyngor llawn, a basiwyd yr wythnos ddiwethaf, i roi hyd at 21 mis o ras i Ysgol Gynradd Dihewyd gael adennill niferoedd ei disgyblion.

Yn ôl ym mis Chwefror, fe benderfynodd y Cabinet y byddai Ysgol Gynradd Dihewyd yn cau ym mis Rhagfyr eleni, wedi i nifer y disgyblion ddisgyn i 13.

Mae’r Cyngor hefyd yn dweud fod hanner y llefydd yn yr ysgol yn wag, cyflwr yr adeilad yn wael, a chost rhedeg yn llawer uwch na’r cyfartaledd – ac mai cau yw’r unig ddewis.

Llygedyn o obaith

Ond fe gafodd ymgyrchwyr lygedyn o obaith yr wythnos ddiwethaf, pan benderfynodd y Cyngor llawn, o 13 pleidlais i 12, i gefnogi argymhelliad i roi cyfnod o ras i’r ysgol, er mwyn iddi fedru adfer nifer ei disgyblion uwch ben y trothwy o 16 disgybl.

Mae disgwyl i’r argymhelliad hwnnw fynd gerbron Cabinet y Cyngor y prynhawn yma, ond mae arweinydd y Cyngor, Keith Evans, yn gobeithio y bydd y Cabinet yn cadw at eu penderfyniad gwreiddiol i gau’r ysgol.

‘Bygythiad’

Ond mynd yn groes i “farn ddemocrataidd y Cyngor” fyddai hynny, yn ôl un o’r ymgyrchwyr i achub yr ysgol, Hywel Ifans.

“Rydym wedi bod yn brwydro yn ffyrnig dros achub yr ysgol yn Nihewyd, ac o fewn trwch blewyn i gael cyfle i wneud hynny, ond mae’r bygythiad annemocrataidd yma yn tanseilio ein hymdrechion,” meddai.

“Tra bod tynged yr ysgol yn fater wirioneddol ddifrifol, mae’r posibilrwydd o Gabinet yn anwybyddu’r Cyngor wnaeth ei hethol yn syfrdanol.”

Mae e hefyd yn dweud fod angen i’r Cyngor ystyried ffigyrau’r adran addysg o fewn y Sir.

“Mae’r ffigyrau hynny yn dangos bod cynnydd yn debygol yn nifer y disgyblion bob blwyddyn o nawr hyd 2016,” meddai – gan fynnu y byddai’r niferoedd wedi croesi’r trothwy o 16 disgybl erbyn hynny.

Bydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cyfarfod am 12.30pm yn Aberaeron heddiw i drafod y mater.