Cafodd un dyn yn ei ugeiniau ei gludo i Ysbyty Gwynedd ar ôl iddo gael ei achub gan hofrennydd yr awyrlu yn Eryri neithiwr.

Syrthiodd y gŵr mewn hen chwarel ger Bwlch Llanberis gan anafu’i ben.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty gan yr hofrennydd yn gyntaf cyn i’r hofrennydd ddychwelyd i Eryri wedyn i achub dynes tua 30 oed oedd wedi llithro ar lethrau’r Wyddfa.