Mae brechu moch daear mewn rhannau o Gymru yn “gyfraniad gwerthfawr” i’r ymgyrch i gael gwared a’r diciau mewn gwartheg yn ôl prif filfeddyg Cymru, Christianne Glossop.

Roedd Ms Glossop wedi cefnogi cynlluniau i ladd moch daear er mwyn atal yr haint rhag ymledu i wartheg.

Wrth siarad ar Radio Wales beth bynnag dywedodd na fuasai un mesur yn ddigonol ar gyfer cael gwared a’r haint a’i bod yn bwysig “ein bod ymladd pob ffynnhonell heintus.”

Roedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi bod o blaid lladd y moch daear yng ngogledd Sir Benfro ond cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths yr wythnos diwethaf bod y llywodraeth Lafur rwan am roi heibio’r cynllun gan gynnal rhaglen bum mlynedd o frechu moch daear yn yr un ardal ble mae’r diciau ymhlith gwartheg yn rhemp.

Dywedodd Ms Glossop ei bod yn deall bod ffermwyr yn siomedig efo’r cyhoeddiad ond ychwanegodd bod Mr Griffiths wedi ystyried nid yn unig y dystiolaeth wyddonol ond y dystiolaeth gyfreithiol hefyd.

Ychwanegodd nad oedd ei barn hi am ladd y moch daear neu eu brechu “ddim bellach yn rhan o’r drafodaeth.”