Bu criw o weithwyr a chefnogwyr ffatri Remploy yn casglu enwau ar strydoedd Wrecsam heddiw mewn ymgais i gadw’r ffatri ar agor.

Mae Remploy Wrecsam yn un o saith safle yng Nghymru sydd am gael eu cau gan Lywodraeth Prydain am ei bod yn credu y bydd yn cael gwell gwerth am arian trwy gefnogi unigolion yn hytrach na ffatrioedd.

Mae 42 o bobl yn cael eu cyflogi yn Wrecsam a 230 yng ngweddill ffatrioedd Remploy yng Nghymru. Bydd Rempoly Porth a Castell Nedd yn aros ar agor.

Dywed adroddiad gan y cyfrifwyr KPMG y bydd ffatri Wrecsam yn gwneud colled o £878,000 yn y flwyddyn ariannol gyfredol ag unedau Rempoly trwy Gymru benbaladr yn gwneud colled o dros £6m.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’r arian sy’n cael ei wario ar Remploy gael ei ddatganoli.